Moel y Plas

bryn (440m) yn Sir Ddinbych

Un o Fryniau Clwyd yw Moel y Plas neu Moel y Plâs (Cyfeirnod OS: SJ170554) ac fe saif 440m metr uwch lefel y môr, tua tair milltir o Ruthun. Mae enw'r foel yn cyfeirio at Blas Llanarmon, rhyw 3 km i'r dwyrain o'r copa, ar lethrau isa'r mynydd.

Moel y Plas
Moel y Plas o Ddyfryn Clwyd, gyda Llyn Gweryd ar y dde
Enghraifft o'r canlynolcopa, bryn Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthSir Ddinbych Edit this on Wikidata
Moel y Plas

Wrth ei draed, i'r de o'r copa, gorwedd Llyn Gweryd ac un o'r moelydd lleiaf, Moel y Gelli, ac i'r gogledd saif saif Moel Llanfair; rhwng y ddau ceir Bwlch Ty'n Mynydd. Bwlch y Llyn yw enw'r dyffryn rhwng Moel y Gelli a Moel y Waun a cheir ffordd ar hyd ochr Moel y Gelli o Ddyffryn Clwyd, sef 'y Silff'.

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato