Neidio i'r cynnwys

Rhys ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:16, 13 Tachwedd 2005 gan Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Roedd Rhys ap Gruffydd (113228 Ebrill 1197) yn dywysog teyrnas Deheubarth o 1155 hyd ei farwolaeth. Adnabyddir ef hefyd dan y teitl Yr Arglwydd Rhys.

Bywyd cynnar

Yr oedd Rhys yn ail fab i Gruffydd ap Rhys, tywysog rhan o Ddeheubarth, a Gwenllian ferch Gruffydd, chwaer Owain Gwynedd. Mae'n debygol iddo gael ei eni yn Iwerddon. Bu farw ei rieni pan oedd Rhys tua phedair oed, Gwenllian ar ôl iddi arwain byddin i ymosod ar gastell Normanaidd Cydweli yn absenoldeb Gruffydd yn 1136, a Gruffydd ei hun y flwyddyn ganlynol. Ei frwad hŷn oedd Maredudd ap Gruffydd, ac yr oedd ganddo ddau frawd iau, Morgan a Maelgwn. Yr oedd ganddo hefyd ddau hanner brawd, Anarawd a Cadell, ac o leiaf ddwy chwaer, Gwladus a Nest.

Yn dilyn marwolaeth ei dad, daeth ei hanner brawd Anarawd ap Gruffydd yn dywysog Deheubarth. Yn 1143, pan oed Rhys yn unarddeg oed, lladdwyd Anarawd trwy dwyll gan wŷr Cadwaladr ap Gruffydd, brawd Owain Gwynedd, brenin Gwynedd. Cosbodd Owain ei frawd trwy yrru ei fab Hywel ab Owain Gwynedd i gymeryd ei diroedd yng Ngheredigion oddi arno.

Brwydrau cyntaf

Daeth brawd Anarawdn Cadell ap Gruffydd yn awr yn dywysog. Yn 1146 mae cofnod am Rhys yn ymladd gyda'i frodyr Cadell a Maredudd i gymeryd meddiant o gastell Llansteffan, yna'n ymosod ar y Normaniaid mewn rhannau eraill o dde Cymru ac yn help i adennill Ceredigion o feddiant Gwynedd yn 1153.

Yn 1151 ymosodwyd ar Cadell gan fintai o Normaniaid a'i adael gydag anafiadau mor ddrwg fel na allai gymeryd rhan yn y brwydro bellach. Yn 1153 aeth ar bererindod i Rufain. Bu Maredudd farw yn 1155 gan adael Rhys fel tywysog Deheubarth.


Dechrau ei deyrnasiad

Yr oedd sialens i Rys ar ddwy ochr. Un oedd oddi wrth Owain Gwynedd, oedd yn ceisio cael Ceredigion yn ôl i'w feddiant. I amddiffyn y diriogaeth, adeiladodd Rhys gastell Aberdyfi. Bu hefyd ymladd gyda'r brenin Harri II o Loegr oedd newydd ddod i'r orsedd. Wedi blwyddyn neu ddwy, gofynnodd Rhys am delerau heddwch a chyfarfyddodd y brenin yn 1158. Collodd Rhys Geredigion a thiroedd eraill, a ddychwelwyd i'w harglwyddi Normanaidd.

Yn 1162, cymerodd Rhys fantais ar absenoldeb Harri yn Normandi i geisio adennill rhai o'i diroedd, a chipiodd gastell Llanymddyfri. Y flwyddyn ddilynol dychwelodd y brenin ac arwain ymosodiad ar Ddeheubarth. Bu raid i Rhys ildio a rhoi gwystlon, ac fe'i cymerwyd yntau i Loegr fel carcharor.

Wedi cyfnod byr penderfynodd Harri ei rhyddhau a dychwelyd rhan o'i diriogaeth, y Cantref Mawr. Gwysiwyd Rhys i ymddangos gerbron Harri yn Woodstock i dalu gwrogaeth iddo, ynghyd ag Owain Gwynedd a Malcolm, brenin Yr Alban. Yn 1164 ymunodd holl dywysogion Cymru mewn gwerthryfel, gan arwain at ymosodiad arall ar Gymru gan Harri yn 1165. Methodd yr ymgyrch yma, a dialodd Harri ar y gwystlon, gan ddallu mab Rhys, Maredudd, Cipiodd Rhys gastell Aberteifi a'i losgi, ac adenillodd Ceredigion.

Yn 1167 ymunodd ag Owain Gwynedd i ymosod ar Owain Cyfeiliog o dde Powys ac yn 1168 ymosododd ar Normaniaid Buellt, gan ddinistrio'r castell. Wedi marw Owain Gwynedd yn 1170 ystyrid Rhys y pennaf o dywysogion Cymru, a galwai ei hyn wrth y teirl "Tywysog De Cymru".

Heddwch gyda'r brenin Harri

Yn 1171 cynhaliwyd cyfarfod arall rhwng Rhys a Harri II, a daethant i gytundeb. Bu raid i Rhys dalu teyrnged, ond cafodd gadw'r hyfan o'r tiroedd yr oedd wedi eu cipio. Pan wrthryfelodd meibion Harri yn ei erbyn yn 1173 gyrrodd Rhys ei fab Hywel i helpu'r brenin, yna yn 1174 arweiniodd ef ei hun fyddin i Swydd Stafford i helpu i roi diwedd ar y gwrthryfel. Enwyd Rhys yn Ustus De Cymru, er er fod problemau gyda rhai o arglwyddi'r gororau, parhaodd perthynas Rhys a'r brenin yn dda yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Cynhaliodd Rhys ŵyl o farddoniaeth a cherddoriaeth yn ei lys yn Aberteifi adeg y Nadolig 1176, a ystyrir fel yr Eisteddfod gyntaf y mae cofnod amdani. Cyhoeddwyd y cystadlaethau flwyddyn ymlaen llaw trwy Gymru ac yn Lloegt, Yr Alban, Iwerddon ac efallai Ffrainc. Rhoddwyd dwy gadair fel gwobrau, un am y darn gorau o farddoniaeth ac un am y perfformiad cerddorol gorau ar unrhyw offeryn.

Teynasiad ddiweddarach a marwolaeth

Wedi marwolaeth y brenin Harri yn 1189, gwrthryfelodd Rhys yn erbyn y brenin newydd, Rhisiart I ac ymosododd ar yr arglwyddi Normanaidd o gwmpas ei deyrnas, gan gipio cestyll San Clêr a Llansteffan. Yn ei hen ddyddiaddau cafodd Rhys drafferth i gadw rheolaeth ar ei feibion, yn enwedig Maelgwn a Gruffydd, oedd yn cweryla'n barhaus. Yn 1194 gorchfygwyd Rhys mewn brwydr gan Maelgwn a Hywel a chafodd ei garcharu, ond rhyddhawyd ef yn ddiweddarach gan Hywel.

Arweiniodd Rhys ei ymgyrch olaf yn erbyn y Normaniaid yn 1196, gan gipio nifer o gestyll yn cynnwys Caerfyrddin a Chastell Paun. Y flwyddyn ddilynol, bu Rhys farw yn annisgwyl a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Dilynwyd ef gan ei fab Gruffydd ap Rhys.

Cyfeiriadau

  • Roger Turvey The Lord Rhys: Prince of Deheubarth (Gwasg Gomer) ISBN 1-85-902430-0
  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)